Skip to main content
Logo

Governments can take action to help end homelessness / Gall llywodraethau gymryd camau i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd

Rhys Gwilym-Taylor, Senior Policy and Public Affairs Officer

Fersiwn Cymraeg isod / Welsh version below

In a few days’ time, voters across the UK will elect MPs to represent them in Westminster. We have spent this election encouraging our Skylight members - who are experiencing or have experienced homelessness - to register and exercise the democratic right to vote.

Governments can take action to help end homelessness. We set out very clearly in Everybody In: How to end homelessness in Great Britain last year how we can end homelessness across Britain by having the right policies and approaches in place.

At the beginning of this election, we set out what actions we recommend the next UK Government takes to help end homelessness. Whilst the Welsh Government and Welsh Assembly have a responsibility for housing and homelessness in Wales, decisions made by the UK Government can hinder or help our efforts to end homelessness in Wales. That’s why we’ve been calling on parties to take action on our welfare system, and migrant homelessness.

We published our Manifesto to End Homelessness in Wales, calling on political parties to commit to investing in Local Housing Allowance so that it covers the cost of rent and ensuring that people with migrant status can access the support they need.

We’ve also looked at all the parties’ manifestos to find what commitments they make that will help us end homelessness in Wales. Here’s what the parties had to say on the issues we’ve been campaigning on:

Labour

  • Scrap the ‘bedroom tax’ and increase Local Housing Allowance.
  • Repeal the Vagrancy Act in England and Wales.
  • End the 5-week wait for Universal credit.
  • Introduce a national plan to end homelessness within five years.

Conservatives

  • Adopts the party’s Welsh homelessness strategy pledges
  • Increase the supply of social housing in England
  • Improve the quality of social housing in England
  • End rough sleeping in England by the end of the next Parliament

Liberal Democrats

  • Repeal the Vagrancy Act in England and Wales.
  • Increase Local Housing Allowance and exempt groups from the lower Shared Accommodation Rate for housing benefit.
  • Reduce the wait for first payments from 5 weeks to 5 days.
  • Publish a cross-Whitehall plan to end all forms of homelessness

Plaid Cymru

  • Support the plan developed by Crisis on ending homelessness.
  • Repeal the Vagrancy Act in England and Wales.
  • Fight for a “fairer” benefit system
  • End the ‘bedroom tax’.

As a charity we want to ensure that everybody in our society has the stability of a safe home.  Whoever forms the next Government in Westminster has the power to put in place policies and approaches for the whole of Great Britain that can help end homelessness. We’ll continue to work with governments and parties across England, Scotland and Wales to make sure this happens.

 

Take action on Twitter

Can you help us reach as many people as possible before polling day so more people know how we can end homelessness for good? Share some of our messages below.

1) Message option 1: click to share this message

When some of us struggle, it affects our whole society. And right now, people needing support are being forced into homelessness. All #GE19 candidates should back our call for housing benefit to #coverthecost of rent to #endhomelessness in Wales https://bit.ly/32OuI3u

2) Message option 2: click to share this message

Rising housing costs are pulling people into poverty. Housing benefit needs to #coverthecost of rent and prevent homelessness. When some of us struggle, it affects us all, so for #GE19 all parties must commit to raising housing benefit to #EndHomelessness https://bit.ly/32OuI3u

3) Message option 3: click to share this message

Homelessness hurts us all. We all see the human cost and we know it takes a toll on our society. But it doesn't have to be this way. Together, we can end homelessness in Wales and Britain. Read more about #GE19 on the @CrisisWales blog: https://bit.ly/32OuI3u

 

 

 

Maniffesto ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru

Mewn ychydig ddyddiau bydd pleidleiswyr ledled y DU yn ethol Aelodau Seneddol i’w cynrychioli yn San Steffan. Rydyn ni wedi treulio’r etholiad hwn yn annog ein haelodau Skylight - sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref - i gofrestru ac i ddefnyddio’r hawl democrataidd i bleidleisio.

Gall llywodraethau gymryd camau i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Llynedd yn y cynllun Pawb Mewn: Sut i roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain Fawr, fe wnaethom nodi yn glir sut gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Prydain drwy roi'r polisïau a’r dulliau cywir ar waith.

Ar ddechrau’r etholiad yma, fe wnaethom nodi pa gamau rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth nesaf y DU yn eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Er bod gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru gyfrifoldeb am dai ac am ddigartrefedd yng Nghymru, gall penderfyniadau Llywodraeth y DU rwystro neu helpu ein hymdrechion i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Dyna pam rydym wedi bod yn galw ar bleidiau i fynd i’r afael â’n system lles a digartrefedd ymysg mudwyr.

Rydyn ni wedi cyhoeddi Maniffesto i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n galw ar bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i fuddsoddi yn y Lwfans Tai Lleol er mwyn iddo dalu costau rhent ac i wneud yn siŵr bod pobl â statws mudwr yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rydyn ni hefyd wedi edrych ar faniffesto pob plaid er mwyn gweld pa ymrwymiadau maen nhw’n eu gwneud a fydd yn ein helpu ni i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Dyma sylwadau’r pleidiau ar y materion rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu drostynt:

Llafur

  • Diddymu’r ‘treth ystafell wely’ a chynyddu’r Lwfans Tai Lleol.
  • Diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yng Nghymru a Lloegr.
  • Rhoi diwedd ar yr cyfnod aros o 5 wythnos am gredyd Cynhwysol.
  • Cyflwyno cynllun cenedlaethol i roi diwedd ar ddigartrefedd mewn pum mlynedd.

Y Ceidwadwyr

  • Mabwysiadu addewidion strategaeth digartrefedd Cymru y blaid
  • Cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yn Lloegr
  • Gwella ansawdd tai cymdeithasol yn Lloegr
  • Rhoi diwedd ar gysgu allan yn Lloegr erbyn diwedd y Senedd nesaf

Y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yng Nghymru a Lloegr.
  • Cynyddu’r Lwfans Tai Lleol ac eithrio grwpiau o’r Gyfradd Llety a Rennir isaf ar gyfer budd-dal tai.
  • Lleihau’r amser aros am y taliadau cyntaf o 5 wythnos i 5 diwrnod.
  • Cyhoeddi cynllun ar draws Whitehall i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd.

Plaid Cymru

  • Cefnogi’r cynllun a ddatblygodd Crisis i roi diwedd ar ddigartrefedd.
  • Diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yng Nghymru a Lloegr.
  • Brwydro dros system budd-daliadau “tecach”
  • Rhoi diwedd ar y ‘dreth ystafell wely’

Fel elusen, hoffem wneud yn siŵr bod gan bawb yn ein cymdeithas sefydlogrwydd cartref diogel.  Y Llywodraeth nesaf yn San Steffan fydd â’r pŵer i roi polisïau a dulliau ar waith ar gyfer Prydain Fawr i gyd a fydd yn gallu helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau a phleidiau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

 

Gweithredu ar Twitter

Gallwch chi ein helpu i gyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosibl cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn i fwy o bobl wybod sut gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd am byth? Rhannwch rhai o’n negeseuon isod.

Opsiwn 1: rhannwch y neges hon 

Pan fydd rhai ohonom yn ei chael hi’n anodd, mae’n effeithio ar gymdeithas gyfan. Ac ar hyn o bryd, mae pobl sydd angen cefnogaeth yn cael eu gorfodi i fod yn ddigartref. Dylai holl ymgeiswyr #GE19 gefnogi galw @crisisWales i fudd-dal tai dalu costau rhent #EndHomelessness https://bit.ly/32OuI3u

Opsiwn 2: rhannwch y neges hon 

Mae’r cynnydd yng nghostau tai yn gwneud pobl yn dlawd. Mae budd-dal tai angen talu costau rhent ac atal digartrefedd. Pan mae rhai ohonom yn ei chael hi’n anodd, mae’n effeithio ar bawb. Felly ar gyfer #GE19 mae’n rhaid i bob plaid ymrwymo i godi budd-dal tai #EndHomelessness https://bit.ly/32OuI3u

Opsiwn 3: rhannwch y neges hon 

Mae digartrefedd yn ein brifo ni gyd. Rydym i gyd yn gweld y gost ac rydyn ni’n gwybod ei fod yn effeithio ar ein cymdeithas. Ond does dim rhaid iddi fod fel hyn. Gyda’n gilydd, gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru ac ym Mhrydain. Darllenwch fwy am #GE19 ar flog @crisiswales: https://bit.ly/32OuI3u

For media enquiries:

E: media@crisis.org.uk
T: 020 7426 3880

For general enquiries:

E: enquiries@crisis.org.uk
T: 0300 636 1967

 
;