English / Cymraeg
Yn y Ganolfan Tai gallwch ddod o hyd i ddeunyddiau sy’n cefnogi awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, landlordiaid preifat a phrosiectau Cymorth i Rentu i sefydlu a datblygu opsiynau tai.
Os ydych yn chwilio am gymorth tai, rydym yn cynnig hyn fel rhan o’n gwasanaeth yn Crisis Skylight De Cymru. Mae yna hefyd cyngor gyda chysylltiadau i sefydliadau eraill a allai eich helpu chi yn Sut i gael help.
Wrth sefydlu Crisis Skylight De Cymru yn ddiweddar rydym bellach mewn sefyllfa dda i roi cefnogaeth i sefydliadau yng Nghymru sydd am roi diwedd ar ddigartrefedd. Gallwn gryfhau’r arferion gorau rydym wedi dysgu o'n rhaglenni ariannu yn Lloegr a'r Alban a rhannu hyn i helpu sefydlu a datblygu gwasanaethau.
Rydym wedi hyrwyddo a choladu arferion gorau yn nefnydd y sector rhentu preifat (PRS) fel opsiwn tai ers 1997. Gyda’r arfer hwn rydym wedi datblygu nifer o becynnau cymorth ymarferol a deunydd cynghori sydd i'w gweld o fewn y Canolfan Tai. Fe wyddom fod angen cynyddol i ddatblygu'r PRS fel opsiwn tai gan fod cyflenwad a mynediad at dai cymdeithasol yn gyfyngedig ar gyfer pobl ddigartref. Drwy ein gwaith ledled y DU, rydym wedi gweld sut all y PRS fod yn opsiwn hyfyw a diogel, a chredwn bydd y newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth PRS yng Nghymru yn hybu hyn ymhellach.
Rydym hefyd wedi datblygu deunydd ymarferol i gefnogi sefydlu a datblygu prosiectau tai rhannu. Bydd newidiadau diwygio lles sydd wedi effeithio ar bobl o dan 35 yn y PRS ac o 2019 yn y sector cymdeithasol yn cael effeithiau sylweddol ar gyflenwad tai ar gyfer y grŵp hwn. Felly, rydym yn cynnig cymorth a hyfforddiant i brosiectau sy’n datblygu tai rhannu.
Rydym yn tynnu ar brofiad gwasanaethau uniongyrchol ein hunain a'r gefnogaeth rydym wedi ei ddarparu i sefydliadau eraill ledled y DU i hyrwyddo ein harfer gorau. Felly, rydym mewn sefyllfa unigryw i ddarparu datrysiadau o farchnadoedd tai cymharol lle bynnag y maent yn y DU.
Os nad ydych yn dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdano yn y Ganolfan Tai neu os hoffech ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi yn uniongyrchol, cysylltwch â ni arprivate.renting@crisis.org.uk.