English / Cymraeg
Gyda’n gilydd byddwn yn rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Yng Nghymru mae ein tîm yn Abertawe yn darparu addysg, hyfforddiant a chymorth i bobl ddigartref yn Ne Cymru.
Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall digartrefedd yng Nghymru ac yn ymgyrchu ar gyfer y newidiadau sydd eu hangen i roi diwedd arno am byth.
Mae digartrefedd yn gymhleth. Gall bobl fod yn ddigartref am nifer o wahanol resymau. Mae’r daith i ffwrdd o ddigartrefedd hefyd yn gymhleth. Gall faterion megis hygyrchedd tai fforddiadwy, deddfwriaeth a'r system fudd-daliadau achosi ac effeithio ar ddigartrefedd.
Yn y ganolfan gwybodaeth ddigartrefedd byddwch yn darganfod ymchwil am dueddiadau digartrefedd, achosion digartrefedd a’i effeithiau.
Mae ein gwasanaeth tai yn goresgyn y rhwystrau mae pobl ddigartref yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i gartref ar rent trwy gefnogi landlordiaid cymdeithasol a darparu hyfforddiant Parod i Rentu i ddarpar denantiaid.
Defnyddio eich sgiliau i wneud gwahaniaeth yn eich ardal.
Rydym yn ymgyrchu ar lefel leol a chenedlaethol i newid polisi ac arfer. Gyda’n gilydd, gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd.