English / Cymraeg
Ers ei sefydlu yn 1824, mae’r Ddeddf Crwydradaeth wedi gwneud cysgu ar y stryd neu fegera yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.
Nid yw eu hystyried yn drosedd yn gwneud unrhyw beth i ddatrys yr hyn sydd wrth wraidd digartrefedd.
A dweud y gwir, mae’n fwy tebygol o wthio rhywun ymhellach oddi wrth y gwasanaethau hanfodol sy’n eu helpu i symud oddi ar y stryd.
Diolch i’n hymgyrchu ni a’ch gweithredoedd chi, mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth wedi’i ymgorffori yn y gyfraith – llwyddiant aruthrol i’r ymgyrch!
Rydyn ni’n awr yn pwyso am ddiddymu’r Ddeddf yn derfynol yng Nghymru a Lloegr yn ddi-oed, yn ogystal â pheidio â chreu deddfwriaeth ychwanegol a allai olygu fod pobl sy’n ddigartref neu’n amddifad yn droseddwyr.
Mae’r llywodraeth am ddisodli’r Ddeddf Crwydradaeth â chyfreithiau newydd a fyddai’n rhoi pwerau newydd i’r heddlu i wneud begera’n drosedd.
Mae perygl y gall hyn wneud digartrefedd yn drosedd a gwthio’r rheini sydd ar y strydoedd ymhellach i ffwrdd oddi wrth y cymorth sydd arnyn nhw eu hangen.
Rhaid i ni beidio â disodli un darn niweidiol o ddeddfwriaeth â darn arall sy’n targedu pobl sy’n ddigartref ac yn amddifad.
Llofnodwch y ddeiseb i wneud yn siŵr nad yw’r llywodraeth yn gwneud hyn. Dydy digartrefedd ddim yn drosedd. (Yn Saesneg)
Mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth bellach wedi’i ymgorffori mewn cyfraith.
Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd, na fydd cysgu ar y stryd yn cael ei ystyried yn drosedd yng Nghymru a Lloegr mwyach.
Heb eich llais chi fel rhan o’r ymgyrch hon, ni fyddai’r llywodraeth wedi gweithredu i wneud hyn yn bosib.
Mae’r bobl a oedd wedi cael eu hystyried yn droseddwyr o dan y Ddeddf wedi codi eu llais. Fe wnaeth miloedd ohonom lofnodi deisebau, anfon e-bost at weinidogion y Llywodraeth, dechrau sgyrsiau, cysylltu â’n AS, a rhannu’r ymgyrch ar-lein. Daeth sefydliadau a gwleidyddion at ei gilydd.
Mae hyn yn dangos pa mor bwerus y gallwn fod pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Felly, diolch i bawb a weithredodd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
“Mae’n warthus. Ofnadwy.” “Adlewyrchiad gwael o gymdeithas.”
Gwyliwch ymateb gwesteion a gwirfoddolwyr Crisis y Nadolig wrth ddod i wybod am y Ddeddf Crwydradaeth – y ddeddf ganrifoedd oed sy’n gwneud cysgu allan yn drosedd. (Fideo yn Saesneg).