Y monitor digartrefedd: Cymru 2025
10.04.2025
Comisiynwyd Monitor Digartrefedd Cymru: 2025 gan Crisis ac arweiniwyd y gwaith gan Heriot-Watt. Mae hyn yn rhan o gyfres y Monitor Digartrefedd, sy’n darparu dadansoddiad annibynnol o effeithiau datblygiadau economaidd a pholisi diweddar ledled Prydain ar ddigartrefedd.
Mae’r pumed adroddiad hwn sy’n canolbwyntio ar Gymru yn edrych ar sefyllfa digartrefedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu’r Cynllun Gweithredu Lefel Uchel Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys diwygiadau cyfreithiol helaeth arfaethedig, yn ogystal ag effeithiau parhaus digartrefedd yr argyfwng costau byw a phwysau ar lety dros dro.
Y prif ganfyddiadau
Daw’r canfyddiadau hyn o ddulliau ymchwil, gan gynnwys arolwg o awdurdodau lleol, cyfweliadau â hysbyswyr allweddol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, a gynhaliwyd yn ystod haf 2024. Yn ychwanegol, mae'r ymchwil yn cynnwys ymarfer modelu ystadegol sy’n amcangyfrif lefelau o digartrefedd ‘craidd’ ac yn rhagamcanu tueddiadau yn y mathau hyn o ddigartrefedd yn y dyfodol.
- Mae Cymru’n wynebu cyd-destun cymdeithasol-economaidd heriol er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd. Mae’r rhwystrau parhaus o ran gwella ymatebion i ddigartrefedd yn cynnwys diffyg opsiynau tai addas a diffyg capasiti staff o fewn timau awdurdodau lleol.
- Amcangyfrifir bod cyfanswm yr aelwydydd sy’n profi’r mathau mwyaf difrifol o ddigartrefedd (digartrefedd “craidd”, e.e. cysgu ar y stryd, syrffio soffa, aros mewn hosteli, llochesi neu fathau anaddas o lety dros dro), wedi bod yn 12,250 o aelwydydd. Er bod cyfraddau digartrefedd craidd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr, maent wedi codi’n fwy sydyn yng Nghymru nag yn Lloegr neu’r Alban.
- Os bydd y polisïau presennol yn parhau (heb gyfrif am y diwygiadau cyfreithiol arfaethedig), bydd digartrefedd craidd yn parhau i godi yn y tymor byr i ganolig, a bydd yn cynyddu’n fwy sydyn byth yn y tymor hwy.
- Mae gwaith modelu yn dangos y gallai rhaglen gynhwysfawr i ddiwygio polisi leihau digartrefedd craidd yng Nghymru o’i gymharu â’r senario llinell sylfaen erbyn 2041, a gwthio llety dros dro anaddas i lawr gymaint ag 83%. O’r rhai a fodelwyd, y polisïau mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau digartrefedd craidd yn y tymor byr yw cynyddu cyfran y gosodiadau cymdeithasol i aelwydydd digartref, cynyddu’r Lwfans Tai Lleol, a gwneud newidiadau i Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill i leihau amddifadedd.
- Cafodd y diwygiadau cyfreithiol arfaethedig yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru gefnogaeth eang gan awdurdodau lleol a hysbyswyr allweddol, yn enwedig cynigion i gyflwyno dyletswyddau atal newydd ar gyrff cyhoeddus ehangach ac ymestyn dyletswydd atal yr awdurdodau lleol i chwe mis. Roedd cynigion i ddileu neu i newid digartrefedd bwriadol, angen blaenoriaethol a phrofion cysylltiadau lleol yn destun pryder i rai awdurdodau lleol a oedd yn teimlo y byddai’r newidiadau hyn yn cynyddu’r galw ar eu gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau, ond roedd hysbyswyr allweddol yn credu eu bod yn hanfodol er mwyn lleihau’r pethau sy’n rhwystro pobl rhag cael cymorth.
- Roedd rhanddeiliaid o blaid cryfhau mesurau atal digartrefedd. Atgyfnerthir hyn gan y modelu, sy’n dangos y cyfyngiadau ar fesurau atal yn y ddeddfwriaeth bresennol.
Cyfeirnod:
Watts-Cobbe, B., Bramley, G., Sims, R., Pawson, H., Young, G., Fitzpatrick, S. (2025) Y Monitor digartrefedd: Cymru 2025. Llundain: Crisis.