Skip to main content
Logo

A manifesto for ending homelessness in Wales / Maniffesto ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru

Rhys Gwilym-Taylor, Senior Policy and Public Affairs Officer

Fersiwn Cymraeg isod / Welsh version below

In our society, we should all have a safe place to call home. But more than 5,200 families and individuals across Wales and more than 170,000 across Britain as a whole are homeless. People are stuck in dangerous or emergency accommodation, sleeping on floors or friends’ sofas, or even on the street.  

That’s why we’re calling on the next UK Government to make sure that everybody in our society has a safe and stable home. Many decisions about housing and homelessness in Wales are made by the Welsh Assembly but some issues, such as welfare and migrant homelessness, are made by the UK Parliament and Government.

In this General Election, people across England, Scotland and Wales will elect MPs to represent them in Westminster and to make decisions that affect England and some that affect the UK as a whole. Two of the issues that the UK Government has responsibility for are the welfare system, and migrant homelessness. That’s why we’re calling on politicians to invest in housing benefit to prevent homelessness, and to help some of our most vulnerable citizens.

 

Cover the cost of rents

We know that the constant pressure of low wages and high rents are pushing people towards homelessness, restricting the options available to them.

Our research found that consecutive cuts to housing benefit means that in 94% of areas in Britain, one in five or less private rented homes are affordable for people who need housing benefit. People are locked in a struggle to pay their rent and cover the basics like food and bills – in the worst cases, this is causing homelessness. And when homelessness does occur, people can’t find another home due to the gap between benefit payments and the cost of housing.

That’s why we’re calling on the next UK Government to invest in Local Housing Allowance. We know that if the UK Government invested in housing benefit so that it covered just the cheapest third of private rents (1 in 3 of all private rents), it could prevent so many people from becoming homeless.

 

Migrant homelessness

The solutions to homelessness for people with migrant status are essentially the same as for all other people. However, we know that people with migrant status at the moment face a complex set of rules that have created many ways in which they can be pushed into homelessness. These rules must be changed so that everyone can be housed.

 

Take action today

  1. Read our manifesto for Wales

    We’ve set out a whole range of actions the next UK Government could take to help prevent and end homelessness across Wales in our Manifesto for Ending Homelessness in Wales. Read the manifesto here.

  2. Register to vote

    Make sure you’re registered to vote and encourage others to do so too before the deadline on 26 November. If you’re homeless or have no fixed address it’s still possible to register. Visit our website for more details.

  3. Follow our updates

    Read the latest campaign updates and news for Wales and follow @crisiswales on Twitter.

 

Maniffesto ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru

Yn ein cymdeithas ni, dylem ni i gyd gael lle diogel i’w alw yn gartref.  Fodd bynnag, mae mwy na 5,200 o deuluoedd ac unigolion drwy Gymru a mwy na 170,000 drwy Brydain gyfan yn ddigartref.  Mae pobl wedi cael eu dal mewn llety peryglus neu lety argyfwng, cysgu ar loriau neu ar soffa ffrind, neu hyd yn oed ar y stryd. 

Dyna pan yr ydym ni yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau bod gan bawb yn ein cymdeithas gartref diogel a sefydlog. Mae llawer o’r penderfyniadau ynglŷn â thai a digartrefedd yng Nghymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru ond mae rhai materion, fel lles a digartrefedd ymfudwyr yn cael eu gwneud gan Senedd a Llywodraeth y DU.

Yn yr Etholiad Cyffredinol hwn, bydd pobl drwy Loegr, yr Alban a Chymru yn ethol ASau i’w cynrychioli yn San Steffan a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr a rhai sy’n effeithio ar y DU gyfan.  Dau o’r materion y mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb amdanyn nhw yw’r system les a digartrefedd ymfudwyr.  Dyna pam yr ydym yn galw ar wleidyddion i fuddsoddi mewn budd-dal tai i osgoi digartrefedd, a helpu rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus.

 

Talu am gost y rhenti

Gwyddom fod y pwysau cyson o gyflogau isel a rhenti uchel yn gwthio pobl tuag at ddigartrefedd, gan gyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.

Darganfu ein hymchwil fod toriadau ar ôl ei gilydd i fudd-dal tai yn golygu mewn 94% o ardaloedd ym Mhrydain, mae un mewn pump neu lai o gartrefi rhent preifat yn fforddiadwy i bobl sydd angen budd-dal tai.  Mae pobl ynghlwm mewn brwydr i dalu eu rhent a thalu am y pethau sylfaenol fel bwyd a biliau – yn yr achosion gwaethaf, mae hyn yn achosi digartrefedd.  A phan mae digartrefedd yn digwydd, ni all pobl ddod o hyd i gartref arall oherwydd y bwlch rhwng taliadau budd-daliadau a chost y tai.

Dyna pam yr ydym yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i fuddsoddi mewn Lwfans Tai Lleol.  Gwyddom pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn budd-daliadau tai fel ei fod yn talu am ddim ond y traean rhataf o renti preifat (1 mewn 3 o’r holl renti preifat), gallai osgoi digartrefedd i gymaint o bobl.

 

Digartrefedd Ymfudwyr

Yn ei hanfod, mae’r atebion i ddigartrefedd ar gyfer pobl â statws ymfudwyr yr un fath ag i bawb arall.  Fodd bynnag, gwyddom fod pobl â statws ymfudwyr ar y funud yn wynebu cyfres o reolau cymhleth sydd wedi creu llawer o ffyrdd y gallan nhw gael eu gwthio i fod yn ddigartref.  Mae’n rhaid newid y rheolau hyn, fel y gellir darparu tŷ ar gyfer pawb.

 

Gweithredwch heddiw

1. Darllenwch ein maniffesto ar gyfer Cymru

Mae gennym ni amrediad cyfan o gamau gweithredu y gallai Llywodraeth nesaf y DU eu dilyn er mwyn helpu i atal digartrefedd a rhoi terfyn arno drwy Gymru yn ein Maniffesto ar gyfer Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yng Nghymru. Darllenwch y maniffesto yma (dwyieithog).

2. Cofrestrwch i bleidleisio 

Sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ac anogwch eraill i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar 26 Tachwedd.  Os ydych chi’n ddigartref neu os nad oes gennych chi unrhyw gyfeiriad sefydlog, mae’n parhau yn bosibl i gofrestru.  Ewch i’n gwefan er mwyn cael mwy o fanylion.

3. Dilynwch ein diweddariadau yr ymgyrch

Darllenwch ynglŷn â diweddariadau a newyddion diweddaraf yr ymgyrch. Ewch i’n gwefan neu dilynwch @crisiswales.

For media enquiries:

E: media@crisis.org.uk
T: 020 7426 3880

For general enquiries:

E: enquiries@crisis.org.uk
T: 0300 636 1967

;