Skip to main content
Logo

Talwch Ddigon at y Gost

Talwch Digon at y Gost: Ymgyrch Crisis dros adfer cyfraddau Lwfans Tai Lleol i atal digartrefedd.

Mae ein hymchwil wedi dangos bod toriadau olynol i’r budd-dal hwn yn golygu bod 94% o ardaloedd ym Mhrydain, un ym mhob pump neu llai o gartrefi rhent yn anfforddiadwy o dan gyfraddau Lwfans Tai Lleol i bobl sengl, cyplau neu deuluoedd bach sydd angen budd-dal tai. Mewnbynnwch eich côd post i ddarganfod pa mor fforddiadwy yw eich ardal:


Take action now

 

Gweithredwch nawr

Contact political parties 


Eisiau cael gwybod mwy?

Llwythwch yr adroddiad i lawr 


Oes gennych chi brofiad o’r broblem hon?

Rhannwch eich stori 


Llwythwch ein papur gwybodaeth am yr ymgyrch i lawr

Llwythwch 

 

Dylai fod gan bawb gartref sefydlog maen nhw’n gallu ei fforddio.

Pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd, mae'n cael effaith ar ein cymdeithas gyfan. Ac ar hyn o bryd, mae pobl y mae angen cymorth arnynt yn cael eu gorfodi i fod yn ddigartref.

Mae Nicole yn cael trafferth gyda’i hiechyd corfforol a meddyliol. Fel nifer o rai eraill, mae Rachel yn derbyn budd-dal tai i’w helpu i dalu ei rhent gan fod prinder difrifol o dai cymdeithasol mwy fforddiadwy – ond mae’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn brin o £300 y mis i dalu ei rhent. Mae'n poeni y bydd ei bywyd yn chwalu os bydd yn colli ei fflat.

Fel Nicole, mae miloedd o eraill y mae angen y cymorth hwn arnynt yn cael trafferth fawr talu eu rhent, ar ben ceisio talu costau bwyd a biliau. I nifer o bobl, mae’r pwysau cyson yn ormod ac maent yn colli eu cartrefi.

Pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn budd-dal tai, fel ei fod yn cynnwys y traean rhataf yn unig o renti preifat, gallai atal miloedd o bobl fel Nicole rhag mynd yn ddigartref. Gallai hefyd godi miloedd mwy, yn cynnwys dros 35,000 o blant, allan o dlodi.

Ond heb weithredu, bydd nifer y bobl sy’n profi’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd yn dyblu a mwy yn y ddau ddegawd nesaf. Nes bydd digon o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy’n cael eu hadeiladu, rhaid i fudd-dal tai dal fod yn ddigon i dalu cost rhent.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ar ei flaenoriaethau gwario ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gall ASau drwy Gymru, Lloegr, a’r Alban ddylanwadu ar eu penderfyniadau. A gwaith eich AS yw gwrando arnoch.   

Wnewch chi ysgrifennu at eich AS i ofyn iddo/iddi alw am fudd-dal tai sy’n ddigon i dalu cost rhent?

Contact political parties

 
;