Rydym oll yn haeddu lle diogel a sefydlog i fyw ynddo. Ond, ar gyfer 236,000 o bobl ym Mhrydain, nid ydym yn gwarchod yr angen dynol sylfaenol hwn sy’n wynebu’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd.
Mae’r holl ddata o Ffigwr 2.1 a 2.2 ym Mhennod 2 “Polisi Cyhoeddus a Digartrefedd’ yn dangos bod:
the rise in homelessness acceptances following The Housing (Homeless Persons) Act (1977); Sco: Shows Scottish Government rough sleeping statistics as priority need was abolished over the decade; Wal: Shows more households having their homelessness prevented and relieved following new duties in The Housing (Wales) Act 2014. Yn Lloegr: Twf yn y digartrefedd sy’n cael ei gydnabod ers dyfodiad Ddeddf Tai (Pobl Ddigartref) (1977) Yn Yr Alban: Ystadegau cysgu allan Llywodraeth yr Alban fel angen blaenoriaethol wedi eu diddymu dros y ddegawd. Yng Nghymru: Mwy o atal a lleddfu digartrefedd yn dilyn dyle
Llety i bobl ddigartref mewn prosiect Tai yn Gyntaf dan ofal Sefydliad-Y yn Y Ffindir, lle mae digartrefedd cystal â bod ar ben
Cefndir
Gyda dewisiadau gwleidyddol ar sail yr hyn sydd wedi gweithio gartref a thramor, gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae’r cynllun hwn yn cynnig atebion mentrus i wleidyddion.
Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu
Dydy rhoi diwedd ar ddigartrefedd ddim yn golygu na fydd unrhyw un yn colli ei gartref byth eto. Mae’n golygu, na fydd yn digwydd yn aml ac y bydd datrysiad sydyn ar gael pan mae’n digwydd.
Mae’r cynllun hwn yn mynd ati i sicrhau fod gan bawb rywle sefydlog i fyw, fel nad oes unrhyw un wedi ei adael mewn lle peryglus, anniogel neu, waethaf oll, ar y stryd
“Cael tŷ yw fy unig ddymuniad. Dwi’n gwybod os oes gennyf ‘stafell neu fflat fydd ddim ots am bethau eraill. Gyda lle iawn a phobl iawn dwi’n gwybod y gallwn ddod o hyd i swydd.”
“Ro’n i’n byw mewn llety preifat ac yn cael budd-dal tai, ond doedd o ddim yn ddigon i dalu’r diffyg yn y rhent, felly mi es i ôl-ddyled a chefais wybod fy mod i’n mynd i gael fy nhroi allan o fy nghartref.”
"Cefais fy rhyddhau o’r carchar wythnos yn ôl. Doedd yna ddim cyngor am lety a thai na dim byd felly. Doedd yna ddim help. Ddwedon nhw ddim byd wrtha’i, dim ond fy ngadael allan. Dwi wedi bod ar y stryd ers hynny."
Christopher
Lle sefydlog i fyw i bawb
Mae unrhyw un sy’n ddigartref nawr angen rhywle diogel a sefydlog i fyw.
“Rydyn ni mewn llety dros dro efo ‘chydig iawn o arian a dim cyfrif banc. Dwi’n gobeithio cael fy rhif yswiriant cenedlaethol yn fuan – wedyn alla’i gael swydd a gofalu am fy rhieni.”
Mae’n dangos y bwlch misol rhwng cyfraddau Lwfans Tai Lleol a’r rhent cyfartalog ar gyfer eiddo dwy lofft fesul ardal. Er enghraifft, yn Birmingham fe fyddech angen dod o hyd i £60.20 trwy ddulliau eraill er mwyn cael mynediad i’r farchnad rhentu; yng Ngogledd Llundain Fewnol fe fyddech angen £126.16.
Mae hyn yn rhwystr arwyddocaol i ddod o hyd i gartref a’i gadw.
Mae hefyd yn golygu sicrhau fod gan bobol y gefnogaeth gywir, pryd bynnag maent ei hangen. Fe allai hynny fod yn help i ddod o hyd i swydd a chadw’n gyfredol gyda biliau neu gymorth i deimlo’n iawn yn gorfforol a meddyliol.
Pe bai bob awdurdod lleol ledled Prydain Fawr yn mabwysiadu’r arfer gorau o ran atal digartrefedd, byddai degau o filoedd yn llai o aelwydydd yn dod yn ddigartref bob blwyddyn. Gweler Pennod 5 ‘Rhagamcanu Digartrefedd
"Es at y swyddog tai a dweud beth oedd fy sefyllfa, ond fe ddwedon nhw fod dim modd iddynt fy helpu gan fy mod mewn swydd lawn amser. Eglurais mai dim ond help gyda’r blaendal oeddwn ei angen, ond fe ddwedon nhw doedd dim allent ei wneud."
Mae PricewaterhouseCoopers LLP wedi amcangyfrif y bydd cyfanswm y costau o gefnogi pobl ddigartref, mewn perthynas â’n pum diffiniad o roi diwedd ar ddigartrefedd rhwng 2018 a 2041, yn £19,289m a bydd yn rhoi buddiannau gwerth £53,908m. Mae y rhain yn seiliedig ar Werth Presennol prisiau 2017 ac yn berthnasol i ddatrysiadau penodol a gostiwyd yn eu model.
Mae ein cynllun yn dangos sut i roi diwedd ar ddigartrefedd. Ond nawr mae angen gwneud iddo ddigwydd. Ydych chi i mewn i atal digartrefedd? Ymunwch â’n hymgyrch Pawb Mewn, a gofynnwch i’ch gwleidydd lleol wneud yr un fath.
Cliciwch ar y tabiau i weld y cynnydd diweddaraf yng Nghymru Lloegr a’r Alban:
Ymrwymiad gan y llywodraeth i roi diwedd ar gysgu allan erbyn 2027, gyda strategaeth i’w chyflwyno gan y Tasglu Cysgu Allan a Digartrefedd newydd
Cronfa o £30 miliwn ar gyfer cynghorau gyda lefelau uchel o gysgu allan a £28 miliwn ar gyfer tri prosiect peilot Tai yn Gyntaf
Cafodd y Ddeddf Lleihau Digartrefedd ei gweithredu yn 2018, i sicrhau fod miloedd mwy o bobl yn derbyn cefnogaeth i atal a rhoi diwedd ar eu digartrefedd
Mae cynnydd diweddar yn Yr Alban yn cynnwys
Llywodraeth Yr Alban yn sefydlu’r Gweithgor Cysgu Allan er mwyn edrych ar drawsnewid ledled y wlad
Cronfa £50 miliwn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Gyda’n Gilydd i gefnogi argymhellion y gweithgor
Ymrwymiad gan Lywodraeth Yr Alban i adeiladu o leiaf 50,000 o dai fforddiadwy erbyn 2012, yn cynnwys 35,000 o gartrefi cymdeithasol
Mae cynnydd diweddar yng Nghymru’n cynnwys:
Dyletswyddau atal newydd ar gynghorau lleol i helpu unrhyw un sydd wedi ei fygwth gan ddigartrefedd neu i leddfu’r sefyllfa ar gyfer pobl sydd eisoes yn ddigartref
Egwyddorion cenedlaethol Tai yn Gyntaf ar gyfer Cymru yn cael eu sefydlu, gyda chyllid i beilotio’r dull ledled y wlad
Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd ieuenctid o fewn 10 mlynedd (erbyn 2027)